Carey Mulligan | |
---|---|
Ganwyd | Carey Hannah Mulligan 28 Mai 1985 Westminster |
Dinasyddiaeth | Lloegr Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm |
Priod | Marcus Mumford |
Partner | Shia LaBeouf |
Gwobr/au | Hollywood Actress Award, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Critics' Choice Movie Award, Gwobr 'FiLM iNDEPENDENT' |
Actores o Loegr yw Carey Hannah Mulligan [1] (ganwyd 28 Mai 1985). Mae hi wedi ennill wobrau ac enwebiadau, gan gynnwys Gwobr Ffilm yr Academi Brydeinig am Actores Orau, Gwobr Dewis Beirniaid ac enwebiadau ar gyfer dwy Wobr Academi, pedair Gwobr Urdd Actorion Sgrîn, dwy Wobr Golden Globe, a Gwobr Tony.
Cafodd Mulligan ei geni yn Llundain, [2] [3] yn ferch i Nano (g. Booth) a Stephen Mulligan. Daw ei mam o Landeilo.[4] Cyfarfu ei rhieni tra roedd y ddau ohonyn nhw'n gweithio mewn gwesty yn eu hugeiniau.